Hafan > Newyddion > Cangen Pencader yn gwneud prynhawn i ddysgwyr
Cangen Pencader yn gwneud prynhawn i ddysgwyr
Cangen Pencader a’r Cylch
Cynhaliwyd brynhawn i ddysgwyr yng Ngerddi Norwood, Llanllwni ar yr 20fed Mai. Aeth criw o ddysgwyr ac aelodau am daith gerdded ar hyd y lonydd gwledig hyfryd o amgylch Llanllwni a chawsom amser difyr iawn yn sgwrsio ac yn dysgu geirfa a phatrymau iaith gyda’n gilydd. I orffen daeth rhagor o aelodau i ymuno gyda ni a chawsom goffi a chacen blasus iawn tra yn trafod peth busnes y gangen a chael rhagor o glonc diddorol gyda’n gilydd yn ystafell haul y gerddi.