Hafan > Newyddion > Cangen Pencader yn Amgueddfa Wlân


Cangen Pencader yn Amgueddfa Wlân


Am brynhawn o hwyl! Bu aelodau Pencader a’r Cylch yn yr Amgueddfa Wlân yn Nrefach, Felindre yn cael gweithdy ffeltio o dan arweiniad Non Mitchell. Braf oedd cael arddangosiad o’r dull o wneud y ffeltio ond diolch byth fod Non ar gael i’n tywys drwy’r broses oherwydd, fel popeth arall, doedd y gwneud ddim mor rhwydd â’r gweld. Serch hynny llwyddodd bob aelod i wneud darn hyfryd o ffeltio i fynd adref gyda nhw ac yn y broses bu llawer iawn o sbri a chwerthin.

Pa ffordd gwell wedyn i orffen prynhawn arbennig ond drwy gael  pot o de gyda sgon, hufen a jam i fynd gyda fe.