Hafan > Newyddion > Cangen Pencader Tachwedd 2025 - trip i Lambed
Cangen Pencader Tachwedd 2025 - trip i Lambed
Y Ganolfan Cwiltiau, Llanbedr Pont Steffan
Ar y 18fed Tachwedd aeth cangen Pencader a’r Cylch i Lanbedr Pont Steffan i ymweld ag arddangosfa o gwiltiau gyda Jen Jones ar y stryd fawr. Cawsom groeso hyfryd gyda choffi, cacen a chlonc yn y caffi drws nesaf i ddechrau’r diwrnod ac wedyn mynd i weld yr arddangosfa.
Roedd yna hefyd oriel yn llawn o waith Cefyn Burgess a wnaethpwyd wedi iddo deithio i India i weld bobl lleol yn gwehyddu ac wedyn creu darnau o’i waith celf manwl, lliwgar ac unigryw ei hunan a oedd yn creu naws o’r wlad ym mhob darn.
Ymlaen wedyn i weld fideos o rai o’r gweithgareddau eraill sy’n cymryd lle yn yr amgueddfa ac yn olaf cael cyfle i grwydro drwy’r siop ddiddorol yn gweld y cwiltiau a’r holl eitemau diddorol sydd ar gael yno.
Erbyn hyn roedd yn amser cael crwydr o amgylch Llambed a chael cinio cyn mynd adref. Dyna beth oedd mwynhau diwrnod allan!


