Hafan > Newyddion > Cangen Pencader Tachwedd 2025
Cangen Pencader Tachwedd 2025
Dyma luniau o aelodau Pencader a’r Cylch yn mwynhau noson gyda Mrs Heledd Tomos yn festri’r Tabernacl, Pencader. Diddorol oedd clywed hanes gyrfa Heledd fel ffisiotherapydd niwrolegol a’r gwaith arbennig sydd yn cael ei wneud yn dilyn anafiadau neu ddeiagnosis o glefydon sydd yn effeithio ar yr ymenydd. Bu’n ein harwain hefyd mewn rhai ymarferion oedd yn ein helpu i gadw’n ystwyth ac yn gryf. Cawsom foddhád mawr i groesawi merch leol o Lanfihangel ar Arth a oedd yn neud sut wahaniaeth pwysig i fywydau yn ei gwaith bob dydd.

