Hafan > Newyddion > Cangen Pencader Tachwedd 2024


Cangen Pencader Tachwedd 2024


Merched Y Wawr Pencader a'r cylch yn mwynhau sesiwn yoga cadair  yn neuadd Llanfihangel-ar-Arth. Cawsom lawer o hwyl a sbri gyda Joan Venables o Landysul. Mae Joan wedi bod yn rhedeg dosbarthiadau ffitrwydd amrywiol yn yr ardal ers bron deugain mlynedd. Mae rhain yn cynnwys aerobeg dŵr, aerobeg, yoga, yoga cadair a chlychau tegell (kettlebells)😂  Mae hefyd yn darparu hyfforddiant personol un i un. Edrychwch yn fanwl oherwydd gwelwch ein haelod hynaf annwyl, Nansi Jones, yn joio mas draw gyda ni i gyd.