Hafan > Newyddion > Cangen Pencader Medi 26
Cangen Pencader Medi 26
Brâf oedd dod at ein gilydd i gynnal ein noson agoriadol eleni yn Festri'r Tabernacl, Pencader. Dyna beth oedd noson o hwyl a sbri gyda'n siardwraig wâdd, Ann Morris, Maenclochog. Dangosodd i ni sut oedd neud gleiniau allan o ddefnydd gwahanol megis hen sgarffiau neu ddillad a chan gynnwys gorchuddion gwely hyd yn oed. Gwahoddwyd siaradwyr newydd i'r noswaith er mwyn iddynt hwythau gael eu cynnwys yn yr hwyl a'r sbri. Rhoddodd ein llywydd, Fioled Jones, groeso cynnes i Ann ac i'r saith siaradwyr newydd oedd yn bresennol. Bu'n noson hwylus a llwyddiannus iawn wrth i bawb geisio creu set o leiniau i'w cymryd adref gyda nhw.
Roedd pob un o'n gwesteion ble yr oeddent ar eu taith yn dysgu siarad Cymraeg yn sicr yn barod i ymuno gyda ni eto ond hefyd gyda diddordeb mewn sesiynnau siarad a dod i adnabod ein gilydd. Roedd amryw o sgyrsiau yn digwydd fel arfer wrth gwrs wrth gael paned a bisgên a'r teimlad oedd fydde cwrdd am de/coffi a chlonc yn ddymunol iawn bob hyn a hyn.
Ie, noson llwyddiannus iawn gyda'n diolchiadau diffuant i Ann Morris, ein swyddogion a phawb a fu'n bresennol.