Hafan > Newyddion > Cangen Pencader Ionawr 2025
Cangen Pencader Ionawr 2025
Merched Y Wawr Pencader a'r Cylch Ionawr 2025
Daethom at ein gilydd yn festri Capel Nonni, Llanllwni ar brynhawn gwlyb a gwyntog ym mis Ionawr. Noson i Dangos a Dweud a gawsom. Daeth yr aelodau ag eitemau a wnaethpwyd gan aelodau a'u teuluoedd. Roedd yna sampleri brodwaith, siôl ac eitemau eraill wedi eu crosio, ffrog fedydd, clustog ddiddorol iawn yn dangos clustnodau defaid, llun llinynnol a wnaed gan hoelion ac edau, teganau meddal a mat llawr. Roedd gan bob un o'r eitemau ei stori ddiddorol a braf oedd clywed bob un ohonynt yn eu tro. Rhan bwysig iawn o weithgaredd fel hon yw i gadw'r storiau a'r arferion yn fyw drwy eu rhannu gyda'n gilydd.