Hafan > Newyddion > Cangen Pencader gyda Lisa Fearn
Cangen Pencader gyda Lisa Fearn
Dyma griw o ferched cangen Pencader a’r Cylch yn mwynhau sesiwn coginio gyda Lisa Fearn yn Y Sied Lofft ar Barc Pensarn, Caerfyrddin. Cawsom groeso twymgalon gan Lisa a’r staff gyda syniadau a rysaitiau arbennig gogyfer â’r Nadolig. I ddilyn, braf oedd cael blasu’r bwyd a mwynhau amser difyr gyda’n gilydd mewn awyrgylch hamddenol a Nadoligaidd. Mae’r safle hefyd yn hygyrch i bawb gan fod yna lifft hynod o rwydd sydd yn bwysig iawn i sicrhau fod pob aelod yn gallu ymuno ym mwynhád y weithgaredd. Diolch yn fawr i Lisa a’r staff am weithgaredd Nadoligaidd arbennig.