Hafan > Newyddion > Cangen Pencader a'r Cylch yn ymweld a Siop Ty Bach Twt


Cangen Pencader a'r Cylch yn ymweld a Siop Ty Bach Twt


Dyma luniau rhai o aelodau cangen Pencader a’r Cylch yn mwynhau taith i Grymych i ymweld â siop Ty Bach Twt lle cawsom groeso cynnes gan Nia, y perchennog. Roedd cymaint o nwyddau hyfryd ar gael yno roedd gennym broblem fawr i ddewis beth i brynu. Yn yr ail lun gwelwch Caryl Jones yn ennill  gwobr raffl o sgarff hyfryd. Galwon mewn yn Siop Siân ar y ffordd i’r Crymych Arms i gael swper hyfryd a blasus iawn. Dyna groeso twymgalon gan bawb yng Nghrymych!