Hafan > Newyddion > Cangen Pencader a'r Cylch Medi 2025
Cangen Pencader a'r Cylch Medi 2025
Aelodau Pencader a'r Cylch yn cael noson ddifyr iawn yng nghyfarfod cynta'r tymor yn festri capel Gwyddgrug. Mrs Bronwen Morgan oedd gyda ni yn siarad ar y testun "Coelion neu Ofergoelion?". Aeth y noson yn llawer rhy gyflym gyda sawl un ar ochr eu cadeiriau yn gwrando, chwerthin a chyfrannu.


