Hafan > Newyddion > Cangen Pencader a'r Cylch Chwefror 2026
Cangen Pencader a'r Cylch Chwefror 2026
Merched Y Wawr Pencader a'r Cylch
Ym mis Chwefror aeth rhi ohonom lan i Grochendy Gwili yn Llangeler i gael ein tywys o amgylch ac i glywed hanes y busnes ers iddo gael ei sefydlu yn Nyffryn Gwili ar ddiwedd y 20fed canrif. Daeth i gael ei adnabod fel crochendy o safon gyda chynllun nodedig a phatrymau a lliwiau unigryw yn ogystal â dylanwad Cymreig amlwg. Cawsom brynhawn o hwyl gyda photiau bach hyfryd i’w cadw.


