Hafan > Newyddion > Cangen Pencader a'r Cylch - Cegin Gareth


Cangen Pencader a'r Cylch - Cegin Gareth


Cangen Pencader a'r Cylch - Cinio gyda Gareth yn Y Gegin, Llanbedr Pont Steffan

 

Dyma aelodau o gangen Pencader a’r Cylch yn mwynhau prynhawn yng nghwmni Dana Edwards o Aberystwyth a gafodd ei magu yn Nolgrân, Pencader. Cawsom groeso twymgalon gan Gareth yn ogystal â diod twym a chanapés i ddechrau’r wledd. Braf oedd cael Siân hefyd yn gweini gyda’i hiwmor cyfarwydd i ni gan ei bod eto yn un o ferched ein hardal.

 

Roedd y cinio a ddilynnodd, heb ymestyn dim, yn bryd heb ei ail gan ei fod mor flasus. Wel roedd yn anodd i ddilyn hwnnw ond pan ddaeth y pwdin doedd dim swnyn wrth i bawb ei fwynhau - TRIO o bwdin os gwelwch yn dda a’r tri yn glafoeriog o ffein. Tra ein bod yn cael pice bach gyda’n coffi cawsom wledd o eiriau gan Dana.

 

Aeth Dana â ni am daith drwy ei phrofiadau bywyd gan gynnwys ei phlentynod yn Y Ddôl, Dolgrân, Pencader. Tywysodd ni drwy ei gyrfa ac ymlaen at ei bywyd heddiw gyda’i theulu hyfryd yn Aberystwyth. Dyna beth oedd prynhawn wrth ein bodd yn chwerthin a sgwrsio am yr amryw brofiadau oedd gennym ar y cyd o’n hardal ym mlynyddoedd ein magwraeth ac ers hynny.

 

Roedd yn anodd gadael ar ddiwedd y prynhawn ond bu rhaid cael y diolchiadau gan ein llywydd, Fioled Evans a mynd ar ein ffordd gyda llawenydd yn ein calonnau. Diolch Dana.