Hafan > Newyddion > Cangen Mynytho - Trip Mehefin 2025
Cangen Mynytho - Trip Mehefin 2025
I ddiweddu ei’n tymor eleni cafodd chydig o aelodau Cangen Merched y Wawr Mynytho drip i fynd ar gwch o Biwmaris allan i afon Menai. O fewn 10 munud o gyrraedd daeth neges i ganslo ei’n trip oherwydd gwynt cryf! Dewisom fynd i garchar Biwmaris - dim yn garcharwyr!! ond i weld yr adeilad fel amgueddfa arbennig i gofio y gorffennol. Yr unig un oedd yn haeddu carchar oedd gwylan ddaru ddwyn hufen ia o law un ohonom a’i lyncu yn gyfan! Gwledda yn Felinheli ar ffordd adra a phawb wedi mwynhau y diwrnod yn fawr.