Hafan > Newyddion > Cangen Mynytho Hydref 2025


Cangen Mynytho Hydref 2025


Trefnwyd noson wahanol agored neithiwr yng Nghapel Smyrna Llangian gan gangen Merched y Wawr Mynytho gyda Gwenan Gibbard, Catrin Morris Jones a Nia Davies-Williams yn diddanu a sôn am eu Taith fel Telynorion ar ymeliad i Shillong a Bryniau Casia. Mwynhaodd pawb eu cyflwyniad arbennig a hyfryd gyda pawb yn cael paned, sgwrs a chacen i ddilyn yn Neuadd yr Eglwys Llangian. Diolch i bawb a drefnodd ac a ddaeth i gefnogi.