Hafan > Newyddion > Cangen Merched y Wawr Dinbych a’r Cylch.


Cangen Merched y Wawr Dinbych a’r Cylch.


Dyma ychydig o luniau o rai o aelodau Cangen Merched y Wawr Dinbych a’r Cylch. Yn ddiweddar cawsom ymweliad arbennig o amgylch Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, gyda chyfle i weld y stafelloedd gwaith, tu ôl i’r llwyfan, ac i glywed mwy am y cyfleoedd y mae’r Theatr yn eu cynnig i drigolion y gymuned leol. Wrth gwrs, roedd rhaid cael paned a chacen gri ym mwyty Bryn Williams yn y Theatr cyn gadael! Diolch i Emyr, Angharad a Daniel am fod mor hwyliog wrth ein tywys.