Hafan > Newyddion > Cangen Mawddwy Ionawr 2025


Cangen Mawddwy Ionawr 2025


Daeth Llinos Mair Roberts, o Lanbrynmair atom fis Ionawr i ddangos lluniau ac adrodd hanesion ei hanturiaethau wrth grwydro'r byd. Hyd yn hyn mae wedi ymweld â 76 o wledydd gwahanol. Cawsom wibdaith ddiddorol drwy wledydd mor amrywiol gan gynnwys Fietnam, Guatemala, Hong Kong , Zambia, Uzbekistan, yr Aifft a'r India. Gwelsom lun o flodyn mwya’ byd ym Malaysia , llosgfynydd yn berwi yn Nicaragua, cychod wedi eu naddu o foncyff coeden ym Motswana. Roedd y fideo o Llinos yn neidio bynji oddi ar bont yn Zimbabwe a'r llun o'r Sky Dive yn Namibia yn ddigon i godi arswyd ar unrhyw un. Roedd pawb yn rhyfeddu at blwc ac agwedd anturus Llinos wrth iddi adrodd ei hanesion yn cerdded drwy 'r coedwigoedd trofannol i gyrraedd y Ddinas Goll yn Colombia, neu yng nghysgod mynyddoedd anferth Nepal, neu yn chwilio am Gorila yn Uganda. Bu'n hwylio afonydd yn Honduras, yn teithio ar dren bullet yn Japan, ac yn bwyta pob math o fwydydd diddorol ymhobman gan gynnwys siani flewog ! Noson wirioneddol ddiddorol ac addysgiadol ac mi fydd pawb yn edrych 'mlaen yn awchus at hanesion y teithiau nesaf.

 

Diolchwyd i Llinos gan Gwawr. Eirian Wyn ac Anwen oedd yn gyfrifol am y baned a Geunor oedd yn rhoi'r wobr raffl a enillwyd gan Rhian Booth. Bydd pawb rwan yn edrych ymlaen at ein cinio Gŵyl Ddewi ddiwedd mis Chwefror.