Hafan > Newyddion > Cangen Llannor ac Efailnewydd yn dathlu 50!
Cangen Llannor ac Efailnewydd yn dathlu 50!

Cynhaliwyd noson arbennig iawn neithiwr i ddathlu hanner can mlwyddiant cangen Llannor ac Efailnewydd.
Agorwyd y noson gan Mrs Jean Williams, un o sylfeynudd y gangen, gyda gair o groeso. Croesawodd Geunor Roberts, ein Llywydd Cenedlaethol ynghyd a Mrs Iola Jones. Roedd nifer o gyn aelodau wedi ymuno a ni i ddathlu.
Roedd gwledd wedi ei pharatoi gan yr aelodau.
Cafwyd y gacen yn rhodd gan Jean.
Roeddem wedi gwadd Lleucu Gwawr i ein diddori - gyda diolch i Noson Allan a Chyngor Gwynedd.
Diolch i bawb fu yn rhan o'r noson am bob cymorth i wneud y dathliad yma yn un byth gofiadwy.