Hafan > Newyddion > Cangen Llangadog Tachwedd 2024
Cangen Llangadog Tachwedd 2024
CANGEN LLANGADOG
Mawr oedd yr edrych ymlaen at gyfarfod mis Tachwedd, oherwydd mai Hawl i Holi oedd wedi ei drefnu. Roedd y panel yn adnabyddus, sef yr actores a’r gyfarwyddwraig Janet Aethwy; cadeiryddes Y Lloffwr, Carol Dyer; Parchedig Jeff Thomas a’r Cynghorydd Andrew Teilo. Yn cadw trefn oedd y Cynghorydd Handel Davies. Roedd amrywiaeth o gwestiynau wedi dod i law a bu trafod dwys a doniol. Pleser oedd croesawu aelodau canghennau cyfagos a chafwyd cyfle i fwynhau paned a chacen. Croesawyd pawb gan Eluned Walters a Haulwen Booth wnaeth gyflwyno’r diolchiadau.