Hafan > Newyddion > Cangen Llangadog Medi 2025


Cangen Llangadog Medi 2025


Dyma luniau o gyfarfod cyntaf y tymor Cangen Llangadog. Diolch i Eluned am ei Llywyddiaeth dros y ddwy flynedd diwethaf a diolch enfawr i Eirlys am ei chyfnod fel ysgrifennydd y gangen. Ers cychwyn y gangen mae Eirlys wedi bod yn ysgrifennydd am 20 mlynedd ac am 16 yn ddi-dor. Swyddogion newydd - Eirlys Rowlands yw’r Llywydd, Haulwen Booth yw’r Ysgrifennydd a fydd Nan Morse yn parhau fel Trysorydd. Orig hyfryd i ddilyn yng nghwmni Helen Worthington a Nan Morse, yn ymbalfalu beth oedd defnydd yr hen daclau. Diddorol iawn.