Hafan > Newyddion > Cangen Llanerfyl yn ymweld â Llyfrgell Y Drenewydd


Cangen Llanerfyl yn ymweld â Llyfrgell Y Drenewydd


Ar drothwy Wythnos Llyfrgelloedd 2022 aeth Cangen Llanerfyl ar ymweliad â Llyfrgell Y Drenewydd. Diolch i Mair am ein tywys o amgylch y gwahanol adrannau ac esbonio am yr holl adnoddau a chyfleusterau mae'r Llyfrgell yn ei gynnig. Trysor o le yn sicr, a lle i dreilio tipyn mwy o amser ynddo, a gwerthfawrogi y gwasanaeth hanfodol a phwysig mae'r Llyfrgell yn ei gynnig i'r gymuned.