Hafan > Newyddion > Cangen Llanelwy yn ymweld a Pont y Tŵr
Cangen Llanelwy yn ymweld a Pont y Tŵr
Aelodau Merched y Wawr Llanelwy yn ymlacio ar eu hymweliad â gardd hyfryd Pont y Tŵr, sef lleoliad y gyfres ‘Garddio a Mwy’ Diolch i Sioned Edwards am ein tywys o gwmpas.
Ar gyfer cymryd rhan ym mhrosiect ‘Cerdded, Cerdd a Chynefin’ Jill Lewis, y Llywydd Cenedlaethol, bu aelodau cangen Llanelwy ar daith gerdded o gwmpas Rhuddlan gan gychwyn yn y Warchodfa Natur leol. Clywsom hanes nifer o adeiladau hanesyddol y pentref, gan gynnwys y castell wrth gwrs, cyn mynd am baned i eglwys hynafol Y Santes Fair i wrando ar y gainc ‘Morfa Rhuddlan’ ac edrych ar gerdd Ieuan Glan Geirionydd am y gyflafan waedlyd fu ar y forfa yn y flwyddyn 796 .