Hafan > Newyddion > Cangen Llandysul a'r Cylch


Cangen Llandysul a'r Cylch


Cynhaliwyd cyfarfod Mis Medi o Merched y Wawr Llandysul yng nghwmni Tomos Lewis, gwneuthurwr y Gadair Eisteddfod y Garreg Las. Aeth i esbonio'r broses o roi cais mewn, a bod yn llwyddiannus, cynllunio, dylunio a gwneud y gadair gan ddefnyddio pren o Barc Cenedlaethol Sir Benfro gan ddweud gwnaeth y broses cymryd blwyddyn i gwblhau.  Esboniwyd hefyd y gwahanol symbolau o’r tair sir oedd ynghlwm gyda’r cynllun. I ddiweddi'r noson wnaeth rhoi bach o hanes ei gwmni ‘Dail Pren’, cwmni sy’n arddangos nwyddau amrywiol wedi gwneud allan o bren. Cafwyd noson ddiddorol, addysgiadol a hwylus yn ei gwmni.