Hafan > Newyddion > Cangen Llandeilo Ionawr 2025


Cangen Llandeilo Ionawr 2025


CANGEN LLANDEILO

Dathlwyd cyfarfod y Nadolig yng nghwmni’r Prifardd Einir Jones, Rhydaman gyda ddarlleniadau a charolau gan yr aelodau. Mae’n adnabyddus ac yn weithgar yn ei milltir sgwâr ac wrth gwrs yng Nghymru fel llenor a enillodd y Goron yn Eisteddfod Bro Delyn yn 1991. Mae ganddi’r ddawn o fedru cyfathrebu a throsglwyddo neges yn effeithiol a hynny a wnaeth wrth olrhain stori’r Nadolig. Cafwyd gogwydd modern a chyfoes ac weithiau doniol i’r hanes a hynny heb anghofio arwyddocâd yr achlysur. Yn dilyn, cafwyd cyfle i gael sgwrs ac i fwynhau gwledd o ddanteithion Nadolig blasus a baratowyd gan y criw gweithgar.