Hafan > Newyddion > Cangen Llandeilo Gorffennaf 2024
Cangen Llandeilo Gorffennaf 2024
Dathlwyd diwedd y tymor yng Ngwesty’r Aradr yn Rhosmaen. Mwynhawyd cinio blasus yng nghwmni ein gilydd ac yn goron ar y prynhawn cafwyd cwmni un o’n Cymru disgleiriaf sef yr amryddawn Rhian Morgan sydd yn byw yma yn ein plith yn Llandeilo. Roeddem i gyd wrth ein boddau yn cael ein hatgoffa o’r gwahanol raglenni a’r cyfresi mae’r actores ddawnus yma wedi cymeryd rhan ynddynt a rhyfeddwyd at y swmp o waith mae hi wedi ei gyflawni dros y blynyddoedd. Erbyn hyn mae Rhian wedi hyfforddi fel Ficer yn yr Eglwys yng Nghymru, swydd lle mae ei doniau a’i phersonoliaeth yn gaffaeliad amrhisiadawy i’r achos. Roedd yn ddiweddglo clodwiw i’r tymor – rydym yn edrych ymlaen i gael cwmni ein gilydd eto ym mis Medi.