Hafan > Newyddion > Cangen Llandeilo - Cinio Blynyddol 2026
Cangen Llandeilo - Cinio Blynyddol 2026
CANGEN LLANDEILO
Cafwyd prynhawn hyfryd yng Ngwesty’r Aradr, Rhosmaen yn y cinio blynyddol. Y gwestai eleni oedd y Canon Eileen Davies. Addysgwyd a difyrrwyd yr aelodau gan y wraig amldalentog yma. Hi yw’r wraig gyntaf i ymgymryd â swydd Archddiacon yn Esgobaeth Tŷ Ddewi ac mae canmoliaeth frwd iddi yn ei gwaith. Mae hi wedi bod yn gyfrifol ynghyd ag Esgob Tŷ Ddewi am sefydlu Tir Dewi. Roedd edmygedd yr aelodau yn enfawr am ei brwdfrydedd a’i chonsyrn am gyflwr meddyliol ffermwyr heddiw. Prynhawn difyr iawn.
