Hafan > Newyddion > Cangen Harlech a Llanfair Chwefror 2026 - Dysgwyr/Siaradwyr Newydd
Cangen Harlech a Llanfair Chwefror 2026 - Dysgwyr/Siaradwyr Newydd
Ers nifer o flynyddoedd bellach mae Cangen Harlech a Llanfair wedi gwahodd dysgwyr/siaradwyr newydd i ymuno â ni bob mis Chwefror. Eleni daeth 10 o ddysgwyr/siaradwyr newydd, ynghyd â’u tiwtor, Carys Huw, i’r cyfarfod a braf oedd gweld y siaradwyr newydd yn cymysgu gyda’n haelodau ac yn blasu’r profiad o ymuno â changen o Ferched y Wawr. Croesawodd Bronwen Williams, llywydd y noson, ein gŵr gwadd, sef Ken Hughes o Bentrefelin. Cafwyd noson ddifyr a hwyliog iawn yn ei gwmni wrth iddo sôn am ei hoffter o gerddoriaeth, o Ddyfryn Nantlle, o deithio ac o wisgo dillad o’r ansawdd gorau. Mwynhawyd lluniaeth ysgafn wedyn ac fe gafodd y dysgwyr/siaradwyr newydd gyfle i sgwrsio yn Gymraeg - elfen sydd mor bwysig yn eu datblygiad ar y llwybr i bontio a meistroli'r iaith.
