Hafan > Newyddion > Cangen Gorseinon Hydref 2025
Cangen Gorseinon Hydref 2025
Cangen Gorseinon
Nos Lun 27 Hydref cawsom noson wahanol iawn yn y gangen: y neuadd yn llawn i ymuno i chwarae Bingo a phawb yn cystadlu’n awchus am y gwobrau mawr o gael LLINELL neu DŶ LLAWN – pawb yn canolbwyntio, dim siarad a ‘Llygaid i Lawr!’ Jennifer oedd yn llywio’r noson yn llawn hwyl, ac yn galw rhifau’r Bingo. Yna cawsom wledd o sgldion a selsig / risol/ bysedd pysgod neu fîns o siop sglodion Romas ryw ganllath o’r ganolfan. Pawb wedi cael modd i fyw gan fod digon o gyfle i sgwrsio a chymdeithasu. Roedd pawb o’r farn y byddai’n hwyl gwneud hyn eto’r flwyddyn nesa.






