Hafan > Newyddion > Cangen Gorseinon Ebrill 2026


Cangen Gorseinon Ebrill 2026


Braf oedd cael cwmni Dilys Griffiths, sydd wedi dechrau ei busnes ei hun ‘Balm Dinefwr’, yn llysieuydd meddygol, i Merched y Wawr Cangen Gorseinon ym mis Ebrill. Roedd ei gwybodaeth helaeth am y llysiau llesol a’u gwerth ar gyfer gwahanol afiechydon ac anafiadau yn rhyfeddol. Roedd ganddi enghreifftiau e.e. lafant, cwmffri, camri, rhosyn ac y y b i’w harddangos a gwerthfawrogodd y gangen ei brwdfrydedd dros ei phwnc. Mae ganddi wefan ddwyieithog ardderchog: www.balmdinefwr.cymru