Hafan > Newyddion > Cangen Ffynnongroes yn paratoi ar gyfer y Nadolig


Cangen Ffynnongroes yn paratoi ar gyfer y Nadolig


MyW Ffynnongroes yn paratoi ar gyfer y Nadolig! Noson hyfryd yn creu addurniadau Nadolig. Diolch i Helen Evans o Gapel Iwan a ddaeth i ddangos ei sgiliau creadigol. Croesawyd dwy aelod newydd sef Sian-Elin Thomas a Hilary Davies. Diolch i ferched y te am ddarparu paned a digon o ddanteithion blasus. Cinio Nadolig fydd nesaf, nos Iau Rhagfyr 1af yn Maenor Llwyngwair am 7yh. Croeso cynnes i bawb.