Hafan > Newyddion > Cangen Ffynnongroes yn dathlu Gŵyl Dewi
Cangen Ffynnongroes yn dathlu Gŵyl Dewi
Cyfarfod mis Mawrth a changen MyW Ffynnongroes yn dathlu Dydd Gwyl Dewi mewn steil gyda cawl, crwmbl, pice bach ac wrth gwrs "Steddfod Ddwl"! Diolch i aelodau o gangen Cylch Aeron Ceredigion am ymuno gyda ni. Darparwyd pum cystadleuaeth i ymestyn doniau diddanu'r merched, gan feirniaid y noson sef Delun Evans ac Endaf Griffiths. Cafodd pob tîm/bwrdd englyn i gwblhau a llongyfarchiadau i dîm cymysg o ferched Ffynnongroes a Chylch Aeron am ennill. Welwyd y llwyfan yn llawn o ferched yn cymryd rhan mewn canu unigol, adrodd stori/jôc, cyflwyniad o "Gee Ceffyl Bach" ac i orffen, corau canu wrth garglo dwr! Lot fowr o chwerthin, dwli direidus ac yn bennaf cwmni gwych! Diolch i bawb a gyfrannodd at y noson arbennig wrth i'r ddwy gangen gwneud y pethau bychain!