Hafan > Newyddion > Cangen Ffynnongroes a Garreg Wen yn dathlu Gŵyl Dewi
Cangen Ffynnongroes a Garreg Wen yn dathlu Gŵyl Dewi
Ffynnongroes
Noson dathlu dydd Gŵyl Dewi oedd cyfarfod mis Mawrth MyW Ffynnongroes, gyda chwmni cangen Y Garreg Wen o ardal Ffostrasol. Gwledd o fwyd wedi eu paratoi gydag aelodau Ffynnongroes yn cyfrannu at y cawl a chrymbl ac i orffen paned a phicau. Ar ôl y bwyta, cafwyd noson hwylus a gwybodus gan yr hanesydd Hedd Ladd-Lewis. Fe gyflwynodd Hedd nifer o eitemau hen, hynod a ddiddorol o'i gasgliad personol gan roi'r cyfle i ni ceisio dyfalu. Diolch i Hedd am roi stori fach diddorol tu ol i bob eitem.