Hafan > Newyddion > Cangen Dinbych a'r Cylch Tachwedd 26


Cangen Dinbych a'r Cylch Tachwedd 26


Ydi’n bosib cynwys yr isod ar dudalen Facebook Merched y Wawr.

 

Daeth Ffion Ryan atom nos Fercher Tachwedd y 4ydd i sôn am ei menter – “Tu ôl i’r brwsh” yn Tŷ Paent.

 

Os ydych wedi meddwl am baentio darn o ddodrefn ond wedi newid eich meddwl, wel, Ffion ydi'r un i'w holi a'i dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn eich ysbrydoli a mynd amdani i baentio'r ddreser, y bwrdd, neu'r gegin. Cawsom gynghorion da ganddi,  o sut i ddechrau ar y gwaith i ba baent i'w ddefnyddio.

Menter newydd gan un sydd wedi mentro – ydych chi am fentro efo’r brwsh paent?

Cofion, Cheryl

Cangen Dinbych a’r Cylch.

 

Llun “Ty Paent” yn dangos Ffion Ryan a rhai o’r aelodau yn ei holi am gyngor.