Hafan > Newyddion > Cangen Dinbych a'r Cylch Ebrill 2026
Cangen Dinbych a'r Cylch Ebrill 2026
Cangen Dinbych a'r Cylch
Cawsom gyfle yn ddiweddar i wrando ar Sioned Jones, Swyddog Cefnogi Hyfforddiant Cymraeg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn sôn am ei gwaith a llwyddiant cynllun y Bwrdd Iechyd i hybu’r Gymraeg.
Roedd yn galonogol clywed bod cymaint o staff yn ymrwymo i ddysgu’r Gymraeg ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Soniodd hefyd am seremoni arbennig a gynhaliwyd yn ddiweddar i ddathlu a llongyfarch eu staff sy’n dysgu ac wedi dysgu’r Gymraeg.


