Hafan > Newyddion > Cangen Dinbych a Dysgwyr
Cangen Dinbych a Dysgwyr
Noson y Dysgwyr Merched y Wawr, Dinbych.
Cafwyd noson ddiddorol a hwyliog yng Nghangen Dinbych a’r cylch o Ferched y Wawr ar 5ed o Chwefror. Thema’r noson oedd dysgu Cymraeg ac estynnwyd gwahoddiad i ddysgwyr, merched a dynion i ddod. Siaradwr gwadd y noson oedd Helen Morris sy'n diwtor Cymraeg efo Popeth Cymraeg, o’r Ganolfan Iaith yma yn Ninbych. Cafodd hi ei chyfweld gan Catherine Howarth, Is-Lywydd y gangen a hithau yn ddysgwr ei hun. Mae Helen yn angerddol dros y Gymraeg ond dydy hi ddim yn dod o deulu Cymraeg, a dweud y gwir, er i Helen gael ei geni yn H M Stanley, mae ei theulu hi yn dod o Wigan yn wreiddiol a symudon i Ddinbych pan gafodd ei thad hi swydd fel athro yn Ysgol Brynhyfryd.
Rhannodd Helen straeon hyfryd am ei chyflwyniad i'r iaith yn Ysgol Y Parc gan athrawon rhagorol fel Mrs Diana Roberts a’i phrofiad cyntaf o gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn Ysgol Frongoch. Datblygodd ei chariad at yr iaith drwy Ysgol Uwchradd Dinbych ac ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dychwelodd Helen i Ddinbych i weithio fel athrawes Gymraeg, hanes Cymru ac ail iaith yn ei hen ysgol uwchradd. Ar ôl cael plant penderfynodd newid ei swydd ac ar ôl cyfarfod Mair Spencer ar hap mewn bore coffi i grŵp o famau a babanod Cymreig penderfynodd fynd yn diwtor Cymraeg i oedolion.
Yn ail hanner y noson cafodd y gynulleidfa gyfle i chwarae gemau bwrdd, sy wedi cael eu dylunio gan Pegi Talfryn o Popeth Cymraeg, i annog sgwrsio naturiol yn y dosbarth ac i wneud y broses o ddysgu iaith yn hwyl. Cafwyd llawer o hwyl. Trefnwyd lluniaeth a raffl gan Menna Ellis, Ann Jones - Evans a Margaret Williams.