Hafan > Newyddion > Cangen Deudraeth - Eisteddfod Hwyl 2025
Cangen Deudraeth - Eisteddfod Hwyl 2025
Cangen Deudraeth
Dyma ychydig o luniau rhai o'r cystadleuwyr a gymerodd ran yn ein Eisteddfod Hwyl . Cafwyd hwyl fawr ar adrodd dan 6 a chanu dan 6, Sefyll ar un goes a braich chwith i fyny am y cyfnod hiraf . Carys a Lynette oedd y ddwy ferch ffit ar y gamp yma. Roedd Eirwen yn wych ar lwyddo i adrodd tabl 8 ar fyr fyfyr yn gyflym, yn gywir ac yn gymraeg! DAeth nifer fawr o limerigau i law a Helen Williams ddaeth i'r brig gyda'i brawddeg hi.
Mae cerdded stryd Port yn y gwylia’
Yn berygl bywyd rhan amla’
Y cŵn o bob brid
Yn bowld a di-hid
Mae hen bryd rhoi clwt ar eu tinnau. (Helen Williams)
Roedd gwaith llaw a gwaith sgwennu hefyd megis llythyr caru, brawddeg o'r new Portmeirion ynghyd a llun gaeafol, Cot, babi a thegan Meddal i blentyn a choginio cacennau wrth gwrs inni gael hefo'r paned ar y diwedd!
Noson llawn hwyl a diolch i'r 3 beirniad dewr Nia, Carol a Rhiannon o Gangen Port.