Hafan > Newyddion > Cangen Deiniolen Gorffennaf 2024
Cangen Deiniolen Gorffennaf 2024
Merched y Wawr Deiniolen
Gwibdaith pen tymor - eleni fel newid, cawsom drip i ymweld a Port Sunlight a'r Lady Lever gallery ar y Wirral. Yno gwelsom llun gwreiddiol ac eiconig Salem gan Curnow Vosper. Cawsom gyfle hefyd i grwydro'r amgueddfa ac o gwmpas pentref Port Sunlight a chlywed mwy am hanes y pentref a'i ddatblygiad ynghlwm a'r ffatri sebon enwog.
Yna pawb yn ol ar y bws ac am Birkenhead i ddal y gwch ar hyd yr afon Merswy gan glywed hanes y ddinas a datblygiadau ar hyd glan yr afon. Yna cyrraedd Doc Albert a threulio amser yn y ddinas cyn dychwelyd am adra. Diolch yn fawr i Jackie unwaith eto am yr holl waith trefnu trylwyr unwaith eto roedd yn ddiwrnod hynod o ddifyr a diddorol a pawb wedi mwynhau yn fawr iawn.