Hafan > Newyddion > Cangen Cylch Aeron Medi 2025
Cangen Cylch Aeron Medi 2025
Cafodd cangen MyW Cylch Aeron daith arbennig yng nghwmni Meirion Jones ym Mhentrecwrt yn dilyn llwybrau T. Llew Jones. Atgoffwyd pawb o rai o ddarnau barddoniaeth arbennig T. Llew a cafwyd gwefr arbennig wrth sefyll ar bont Alltcafan ac edrych i lawr ar y cwm oddi tano.
Cafwyd pryd blasus yn Nhafarn Ffostrasol i ddilyn.
Diolch i Meirion a Nesta ac i Bethan am drefnu noson i’w chofio.


