Hafan > Newyddion > Cangen Cyffordd Llandudno yn dathlu'r Aur
Cangen Cyffordd Llandudno yn dathlu'r Aur
Cangen Cyffordd Llandudno’n dathlu’r Aur
Prynhawn Iau, Mawrth 2il fe ddathlodd Cangen Cyffordd Llandudno 50 mlynedd ers sefydlu’r gangen. Cafwyd te prynhawn yn y Llew Coch, Tynygroes.
Croesawyd pawb i’r dathliad gan Carol Edwards.
Fe gyd-ganwyd anthem Merched y Wawr i gyfeiliant Catherine Watkin ar yr allweddellau.
Cafwyd gair i longyfarch y gangen gan Freda Jones Williams, y Swyddog Datblygu a Mary Williams, Llywydd Rhanbarth Aberconwy.
Fe wnaeth Eirian Jones, un o aelodau gwreiddiol y gangen adrodd hanes y gangen ers ei sefydlu a thorri’r gacen ddathlu.