Hafan > Newyddion > Cangen Cwm Rhymni yn mynd am dro!
Cangen Cwm Rhymni yn mynd am dro!
Dyma’r aelodau a ddechreuodd eu taith heb fod nepell o Bont y Siartwyr yng Nghoed duon i Capel Argoed yn dilyn llwybr hyfryd yng Nghwm Sirhywi. Mae Caffi’r Ffynnon yn yr hen gapel yn darparu bwyd cartre o safon uchel am bris rhesymol iawn er mwyn gweini’r gymuned. Mae awyrgylch hyfryd yn y lle gyda’r gwirfoddolwyr yn barod eu cymwynas. Ar ddiwedd y daith roedd pawb yn cytuno eu bod nhw wedi mwynhau cerdded yn yr heulwen, cymdeithasu yn anffurfiol, bwyta’n hamddenol, wedi helpu achos da a joio mas draw