Hafan > Newyddion > Cangen Cwm Rhymni Ionawr 2025


Cangen Cwm Rhymni Ionawr 2025


‘Gwestai Merched y Wawr Cwm Rhymni ar Ionawr 15 oedd Karen Evans, wyneb cyfarwydd iawn i’r sawl sy’n ymweld â Y Galeri Caerffili. Karen yw rheolwraig y Galeri, canolfan llawn celf a chrefft ddiddorol iawn a lle i artistiaid newydd arddangos eu gwaith.

Gosododd Karen dasg ini, sef creu darn o grefft ein hunain. Roedd hi wedi dod â llond bag o wahanol ddeunyddiau ini – sisyrnau, nodwyddau, glud a gwahanol fathau o ddefnydd . Eglurodd y camau angenrheidiol ini – cynllunio, dewis deunyddiau a wedyn troi ein cynlluniau yn ddarnau o grefft. A dyma ni’n mynd ati o ddifri i greu o dan arweiniad arbenigol Karen , pawb yn gweithio fel lladd nadroedd, heb siarad rhyw lawer ond yn canolbwyntio’n ddiwyd ac , yn wir, erbyn diwedd y noson roedd pawb wedi llwyddo i greu llun.’

#Diolch i’r aelodau am yr adroddiad a’r lluniau. Cyfarfod nesa’ 19/02/25 Cyflwyniad ar Cuba gyda Anwen yn rhithiol.