Hafan > Newyddion > Cangen Corris a'r Cylch yn dathlu'r Aur
Cangen Corris a'r Cylch yn dathlu'r Aur
Dyma Cangen Corris a'r Cylch yn Dathlu'r Aur yn Ty'n Cornel Tal y Llyn ar 5ed o Fawrth yng nghwmni'r Llywydd Cenedlaethol Geunor Roberts. Yn torri'r gacen mae Ellinor Evans a fu'n aelod o'r dechrau cyntaf ac fu'n rhoi hanes digwyddiadau dros yr hanner can mlynedd ac yn gwmni iddynt mae ein Llywydd Ruth Selman.
Braf yw dweud ein bod ni yn dal yn gangen hapus a phrysur ac yn hoffi dathlu bob amser.