Hafan > Newyddion > Cangen Casnewydd a'r Cylch yn dathlu Gŵyl Dewi


Cangen Casnewydd a'r Cylch yn dathlu Gŵyl Dewi


Dyma luniau a hanes dathliad Gŵyl Ddewi cangen Casnewydd a'r Cylch:

Bu cangen Casnewydd a'r Cylch yn dathlu Gŵyl Ddewi eleni drwy fwynhau Te Prynhawn Cymreig blasus. Cafodd yr aelodau eu herio gyda chwis am Dewi Sant a phôs am anifeiliaid, adar a blodau. Roedd ein siaradwyr newydd , a'n haelodau i gyd, wedi cael hwyl ar y crafu pen. Buom hefyd yn canu nifer o'n hoff ganeuon o'r CD "Cân y Gân".