Hafan > Newyddion > Cangen Caerfyrddin Ebrill 2025


Cangen Caerfyrddin Ebrill 2025


CANGEN CAERFYRDDIN

Noson wahanol iawn gawsom ni fel cangen ym mis Ebrill. Teithio i fferm Tanyrallt ger Nantgaredig i ymweld â busnes y Stand Laeth.

Penderfynodd y mab, Mathew a'i bartner Helen arallgyfeirio ar y fferm ar ôl sylweddoli bod eu buches o dros gant o wartheg yn cynhyrchu peth o laeth gorau Dyffryn Tywi.

Mewn adeilad pwrpasol, penderfynon nhw gynhyrchu menyn. Cawsom weld y broses o'r dechrau i'r diwedd gyda'r llaeth yn dod i fewn o'r beudy ac yn cael ei droi yn fenyn a hynny heb orfod gweithio'n rhy galed. Yn lle troi'r fyddai hen ffasiwn yn ddi-ddiwedd, nawr roedd peiriant bach modern ar ben mainc yn gweithio ar drydan. O fewn rhyw ddeng munud roedd y menyn yn barod ac wedi ychwanegu'r halen, mae nhw yn mowldio'r cyfan yn becynnau bychain.

Menter arbennig ac y mae'r pâr ifanc i'w llongyfarch ar eu llwyddiant..

Roedd cyfle i brynu'r menyn, yn ogystal â chynnyrch arall o'r fferm fel bacwn, selsig, byrgers a darnau o gig moch. Gwerthir llaeth ffres hefyd yn syth o beiriant. Erbyn hyn mae'n nhw wedi mentro ar rownd laeth.

Noson arbennig a phob dymuniad da iddynt