Hafan > Newyddion > Cangen Bryncrug ar daith ar hyd glannau'r Dysynni
Cangen Bryncrug ar daith ar hyd glannau'r Dysynni
Buom yn ffodus i gael noson braf i fynd am dro yn ein cynefin “hyd lannau’r Dysynni” o Fryncrug ar nos Wener 23ain Medi. Daeth geiriau cân â ysgrifennwyd gan y diweddar Barchedig Merfyn Jones i’r meddwl:
Ar fin y trofannau mae’r awel yn falm,
A’i si yn y palmwydd fel adnod o salm,
Ond gwell gen i wrando acenion yr Iôr,
Yng nghân y Dysynni wrth deithio i’r môr.
Ble bynnag y crwydraf o bedwar ban byd,
Ar lannau’r Dysynni mae ngalon o hyd,
Er ceinied y gwledydd a’r broydd llawn bri,
Yn swn y Dysynni mae’n nefoedd i mi.’
Arferai rhai o aelodau cangen Bryncrug ganu’r geiriau yma pan oeddynt yn aelodau o barti canu lleol, sef Parti Min y Marian.
Ar ôl magu archwaeth yn yr awyr agored, cawsom swper blasus yn nhafarn y Peniarth a daeth gweddill yr aelodau i’n cyfarfod yno. Noson hyfryd i ddechrau gweithgareddau’r Gaeaf.