Hafan > Newyddion > Cangen Bro Pantycleyn, Llangadog a Chlwb Llanymddyfri yn ymweld a pentref Myddfai
Cangen Bro Pantycleyn, Llangadog a Chlwb Llanymddyfri yn ymweld a pentref Myddfai
Braf oedd cael cwmni Merched y Wawr Llangadog ac aelodau Gwawr Llanymddyfri ym mhentref Myddfai i gyfarfod mis Hydref. Yn anffodus ni allodd ein Llywydd Jill Lewis i ddod oherwydd afiechyd. Danfonwn ein dymuniadau gorau ati. Cawsom brynhawn hwylus dros ben o dan ofal Lyn Richards. Gyda’i ddawn arbennig i ddiddori a’i wybodaeth eang o’r ardal cawsom lu o hanesion a storïau difyr iawn ganddo. Aeth rhai o’r aelodau am dro a chlonc o dan arweiniad Audrey. Nôl wedyn i’r Neuadd am gwpaned a chacen blasus. Diolch hefyd i Jane Morgan am ddod atom.