Hafan > Newyddion > Cangen Bro Gwili Medi 2024


Cangen Bro Gwili Medi 2024


Cangen Bro Gwili

Ar noson gyntaf ein tymor newydd, cawsom ein diddori gan ein gwraig Wadd, Mrs Helen Gibbon, sydd yn gantores o fri. Bu yn dweud peth o’i hanes diddorol a son am y gwledydd ble mae ei chanu wedi mynd a hi. Cawsom y pleser hefyd o glywed ei llais gwych yn canu a chyfeilio rhai caneuon i’n diddori. Noson hyfryd. Diolch hefyd i Beti a Linda fu yn gwneud cwpaned gyda bisgedi ar ein cyfer cyn mynd am adref.

Bydd croeso mawr i aelodau newydd ymuno a Changen Bro Gwili.