Hafan > Newyddion > Cangen Bro Elfed yng nghwmni Gareth Richards


Cangen Bro Elfed yng nghwmni Gareth Richards


Merched y Wawr Bro Elfed

Pa le gwell i groesawu tymor yr hydref nag yng nghwmni Gareth Richards, Goedwig, Llanbed. ‘Hyfrydwch a harddwch yr hydref’ oedd thema’r diwrnod a chafodd Cangen Bro Elfed ddiwrnod o wledda a mwynhau yng nghwmni’r cogydd hoffus ar ddydd Sadwrn, Medi 16eg. Yn ei ffordd hwyliog, aeth Gareth ati i baratoi pryd tri chwrs a danteithion blasus i de gan ddefnyddio ffrwythau a llysiau yn eu tymor. Wedi cinio hyfryd bu Gareth yn arddangos ei sgiliau gosod blodau gan greu sawl gosodiad hydrefol a fyddai’n wobrau raffl maes o law. Cyn troi am adre, cawsom de prynhawn ac roedd pawb yn gytûn ein bod wedi cael diwrnod gwych gyda Gareth.