Hafan > Newyddion > Cangen Bro Cyfeiliog yn addurno cacennau!
Cangen Bro Cyfeiliog yn addurno cacennau!
Cafodd aelodau Merched y Wawr Bro Cyfeiliog, Llanbrynmair noson hwyliog yng nghwmni Alma Evans o Ddolgellau ym mis Tachwedd. Cawsant gyfle i wneud addurn Sion Corn yn barod i roi ar eu cacennau Nadolig. Roedd gan bawb addurn i fynd adref gyda nhw ac fe fydd cacennau del iawn yn yr ardal y Nadolig hwn! Dyma lun o’r aelodau gyda’u addurniadau.