Hafan > Newyddion > Cangen Bro Cyfeiliog Mehefin 2025
Cangen Bro Cyfeiliog Mehefin 2025
Aeth criw o aelodau Merched y Wawr Bro Cyfeiliog, Llanbrynmair ar eu trip blynyddol dydd Sadwrn 21ain o Fehefin i Aberaeron. Cafwyd cyfle i fynd o gwmpas y dref cyn mynd ymlaen i’r Seler am bryd o fwyd. Mwynhawyd y bwyd a chafwyd prynhawn difir yn cymdeithasu ymysg ei gilydd. Fe gafwyd lun wedi ei dynnu cyn ei throi am adref.