Hafan > Newyddion > Cangen Amlwch Rhagfyr 2025
Cangen Amlwch Rhagfyr 2025
Cangen Amlwch, Rhanbarth Môn yn dathlu'r Nadolig
Cawsom wledd a hanner wrth i ni ddathlu'r Nadolig yng Ngwesty'r Dinorben, Amlwch. Daeth Llywydd y Rhanbarth - Siân Arwel atom - ac ar ôl y wledd flasus, cawsom drafod a gweld y gwaith Celf fydd ei angen ar gyfer Stondin Merched y Wawr yn Eisteddfod yr Urdd 2026. Roedd amryw o'r merched yn falch iawn o'r sgwrs, ac wedi casglu syniadau diddorol - ac yn awr yn edrych ymlaen i gychwyn ar y gwaith yn gynnar yn 2026. Cyfarfod olaf gwerth chweil ar gyfer y flwyddyn 2025 - a dymunwn - Blwyddyn Newydd Dda i pawb.
